John Henry Newman

Cardinal, diwinydd a bardd o Loegr oedd John Henry Newman (21 Chwefror 180111 Awst 1890). Roedd yn ffigwr pwysig a dadleuol yn hanes crefyddol Lloegr yn y 19g.

Fe'i ganwyd yn Ninas Llundain, yn fab i fancer. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen, a daeth yn gymrodor o Goleg Oriel ym 1823. Fe'i ordeiniwyd yn offeiriad yn Eglwys Loegr ym 1825.

Ym 1833 traddododd ei bregeth enwog "National Apostasy", yr oedd Newman yn ei hystyried yn ddechrau Mudiad Rhydychen, cylch o eglwyswyr a geisiodd adfer rhai traddodiadau Cristnogol hŷn i'r Eglwys Anglicanaidd. Ar ôl dadlau chwerw yn Rhydychen ym 1842 ciliodd Newman a chriw o'i ddilynwyr i bentref cyfagos Littlemore, lle dilynon nhw ffordd o fwy lled fynachaidd.

Ar 8 Hydref 1845 fe'i derbyniwyd i'r Eglwys Gatholig Rufeinig. Y flwyddyn ganlynol teithiodd i Rufain lle y'i ordeiniwyd yn offeiriad yn yr Eglwys Gatholig. Ar ôl iddo ddychwelyd i Loegr ymgartrefodd yn y pen draw yn Edgbaston, Birmingham, lle bu'n byw am bron i ddeugain mlynedd. Sefydlodd Oratori Birmingham yn y faestref honno.

Ym 1879 fe'i gwnaethpwyd yn gardinal gan Pab Leo XIII. Fe'i canoneiddiwyd gan yr Eglwys Gatholig yn 2019. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 51 - 100 canlyniadau o 159 ar gyfer chwilio 'Newman, John Henry, 1801-1890.', amser ymholiad: 0.04e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 51
  2. 52
  3. 53
  4. 54
  5. 55
  6. 56
  7. 57
    gan Newman, John Henry, 1801-1890
    Cyhoeddwyd 1839
    Awduron Eraill: ...Newman, John Henry, 1801-1890...
    Location: John M. Kelly Library, St. Michael's College
    Llyfr
  8. 58
  9. 59
  10. 60
  11. 61
  12. 62
  13. 63
  14. 64
  15. 65
  16. 66
  17. 67
  18. 68
  19. 69
  20. 70
  21. 71
  22. 72
  23. 73
  24. 74
  25. 75
  26. 76
  27. 77
  28. 78
  29. 79
  30. 80
  31. 81
  32. 82
  33. 83
    gan Newman, John Henry, 1801-1890
    Cyhoeddwyd 1933
    Location: Paul Bechtold Library, Catholic Theological Union
    Llyfr
  34. 84
  35. 85
    gan Newman, John Henry, 1801-1890
    Cyhoeddwyd 2010
    Location: Paul Bechtold Library, Catholic Theological Union
    Llyfr
  36. 86
  37. 87
  38. 88
  39. 89
  40. 90
  41. 91
  42. 92
  43. 93
  44. 94
  45. 95
    gan Newman, John Henry, 1801-1890
    Cyhoeddwyd 1970
    Location: Paul Bechtold Library, Catholic Theological Union
    Llyfr
  46. 96
  47. 97
  48. 98
  49. 99
  50. 100