Karl Adam

Diwinydd Almaenig ac offeiriad Catholig oedd Karl Adam (22 Hydref 1876 – 1 Ebrill 1966).

Ganwyd yn Pursuck in Oberpfalz, a leolir heddiw ym mwrdeistref Freudenberg, ger Amberg, Bafaria. Cafodd ei addysg yn y gymnasiwm yn Amberg a'r Coleg Diwinyddol ac Athronyddol yn Regensburg, ac enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol München ym 1904. Cafodd ei ordeinio ym 1900, a threuliodd ddwy flynedd ar y plwyf. Dychwelodd i München ym 1908 i fod yn diwtor, a fe'i penodwyd yn athro yno ym 1915. Dwy flynedd yn ddiweddarach fe gymerodd y Gadair Ddiwinyddiaeth Foesol ym Mhrifysgol Strasbwrg, ond bu'n rhai iddo adael yn ôl telerau Cytundeb Versailles a oedd yn gwahardd dinasyddion Almaenig rhag Alsás. Dychwelodd i Goleg Diwinyddol Regensburg i addysgu diwinyddiaeth ym 1918, a'r flwyddyn olynol aeth i Brifysgol Tübingen i gymryd y Gadair Ddiwinyddiaeth Ddogmataidd. Yno, fe draddododd ei ddarlithoedd enwog ar bwnc yr Eglwys.

Canolbwyntiodd Adam ar hanes dogma yn ei waith cynnar. Roedd yn hoff iawn o Dadau'r Eglwys, a fe'i nodir am ei arbenigedd ar batristeg a Tertullian ac Awstin o Hippo yn enwedig. Yn ei ddiwinyddiaeth hanesyddol, cafodd ei ddylanwadu gan weithiau Ignatius Döllinger, Joseph Schnitzer, ac Albert Ehrhard, ac o ganlyniad cafodd ei rybuddio gan Swyddfa Sanctaidd y Fatican sawl gwaith rhag cael ei geryddu. Yn Tübingen, trodd at ddiwinyddiaeth systematig a dulliau ffenomenolegol. Pwysleisiodd ddisgrifiadau Pawl o'r Eglwys Gristnogol fel corff o ddilynwyr, gan felly portreadu'r Eglwys fel cymuned yn hytrach na sefydliad fel y mynnai Cyngor Cyntaf y Fatican, neu gymhlethfa fel y dadleuai'r Protestaniaid. Cyhoeddodd ei lyfr enwocaf, ''Das Wesen des Katholizismus'' ("Hanfod Catholigiaeth"), ym 1924. Ysgrifennodd hefyd driawd ar fywyd Iesu Grist: ''Jesus Christus'' (1935), ''Christus unser Bruder'' ("Crist ein Brawd"; 1938), a ''Der Christus des Glaubens'' ("Crist y Ffydd"; 1954). Agweddau cerygmataidd sydd i'w Gristoleg, a gwelir dylanwad y newydd-ramantiaeth a oedd yn boblogaidd yn yr Almaen yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd.

Ym 1933, galwodd Adam am ailgymodi Sosialaeth Genedlaethol â Chatholigiaeth a chyhoeddodd draethawd yn cefnogi Adolf Hitler. Y flwyddyn olynol, fe newidiodd ei farn, a chafodd ei erlid gan yr awdurdodau am iddo ladd ar baganiaeth Diwtonaidd mewn anerchiad i ieuenctid Catholig yn Stuttgart. Er mwyn iddo gadw ei hawl i addysgu, cytunodd Adam i beidio â beirniadu'r llywodraeth byth eto. Yn ei lyfr ''Una Sancta'' (1948), lluniai dadl Gatholig dros eciwmeniaeth. Ymddeolodd o'i swydd yn Tübingen ym 1949, a daliai'r teitl athro emeritws hyd ddiwedd ei oes. Bu farw yn y dref honno yn 89 oed. Cafodd ddylanwad ar sawl diwinydd Catholig yn ail hanner yr 20g, gan gynnwys Karl Rahner, Edward Schillebeeckx, Hans Küng, a Walter Kasper. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Adam, Karl, 1876-1966', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Adam, Karl, 1876-1966
    Cyhoeddwyd 1934
    Location: Hesburgh Libraries, University of Notre Dame
    Llyfr
  2. 2
  3. 3
  4. 4