Alcuin
Bardd, ysgolhaig a diwinydd o Northumbria oedd Alcuin neu Alcwin (tua 735 – 19 Mai 804). Ysgrifennodd mewn Lladin. Roedd yn ysgolhaig ac athro blaenllaw yn llys Siarlymaen, ac yn un o lunwyr pwysicaf y Dadeni Carolingaidd.Fe'i ganwyd yng Nghaerefrog ac astuduodd yn y gadeirlan yno dan arweiniad yr archesgob, Ecbert o Efrog. Aeth ymlaen i fod yn athro yn yr ysgol yno, a daeth yn bennaeth arni tua 767. Yn 781 fe'i hanfonodd gan y Brenin Ælfwald i Rufain i wneud cais i'r Pab am gadarnhau statws Efrog fel archesgobaeth. Ar ei ffordd adref cyfarfyddodd â Siarlymaen, brenin y Ffranciaid yn ninas Parma. Perswadiodd Siarlymaen ef i ymuno â grŵp o ysgolheigion disglair yn ei lys yn Aachen. Daeth Alcuin yn feistr ar ysgol y palas yn 782, a dysgodd nid yn unig meibion y brenin ond y brenin ei hun. Daeth yn gyfaill ac yn gynghorydd i Siarlymaen.
Dychwelodd Alcuin i Northumbria yn 1790, ond roedd yn ôl yn Aachen erbyn 1792. Yn 796 daeth yn abad Abaty Marmoutier yn Tours, lle yr arhosodd hyd ei farwolaeth.
bawd|dim|Tudalen o gopi llawysgrif (tua 800 OC) o ''Ars grammatica'' gan Alcuin Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3Cyhoeddwyd 1656Awduron Eraill: “...Alcuin, 735-804...”
Location: Hesburgh Libraries, University of Notre Dame
Llyfr