Johann Arndt
Diwinydd Lutheraidd o Almaenwr oedd Johann Arndt (27 Rhagfyr 1555 – 11 Mai 1621) sy'n nodedig am ei ysgrifeniadau cyfriniol.Ganwyd yn Edderitz, ger Ballenstedt, yn Nhywysogaeth Anhalt-Köthen. Astudiodd ym mhrifysgolion Helmstadt, Wittenberg, Strasbwrg, a Basel. Fe'i penodwyd yn weinidog yn Badeborn yn 1583, ond cafodd ei ddiswyddo yn 1590 am iddo wrthod tynnu'r lluniau o'i eglwys ac anwybyddu'r gorchymyn i roi'r gorau i allfwrw yn rhan o'r bedydd, arferion a oedd yn groes i ddysgeidiaeth lem y Calfiniaid. Aeth Arndt i Quedlinburg, ac yn 1599 cafodd ei ddanfon i Eglwys Sant Marthin yn Brunswick.
Roedd Arndt yn llenor toreithiog, a gwelir ysbrydoliaeth y cyfrinwyr Sant Bernard o Clairvaux, Johannes Tauler, a Thomas à Kempis yn ei ysgrifeniadau. Ei brif waith yw ''Vier Bücher vom wahren Christentum'' (1605–09), a gafodd ei gyfieithu i sawl iaith a'i ddosbarthu ar draws Ewrop yn ystod oes yr awdur. Er iddo gael ei fabwysiadu yn sail i sawl llyfr defosiynol Catholig a Phrotestannaidd, cafodd nifer o Lutheriaid eu digio gan gynnwys y ''Vier Bücher''. Dylanwadwyd ar Philipp Jakob Spener, sefydlwr Pietistiaeth, yn gryf gan waith Arndt.
Symudodd Arndt i Eiseleben yn 1609, ac i Celle yn 1611. Bu farw yn Celle yn 65 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1gan Arndt, JohannLocation: Benedictine University Library, Benedictine University
Cyhoeddwyd 1732
Llyfr -
2Cyhoeddwyd 1817Awduron Eraill: “...Arndt, Johann, 1555-1621...”
Location: Benedictine University Library, Benedictine University
Llyfr -
3Cyhoeddwyd 1753Awduron Eraill: “...Arndt, Johann, 1555-1621...”
Location: Benedictine University Library, Benedictine University
Llyfr -
4Cyhoeddwyd 1748Awduron Eraill: “...Arndt, Johann, 1555-1621...”
Location: Hesburgh Libraries, University of Notre Dame
Llyfr