Johann Sebastian Bach
Cyfansoddwr Almaenaidd o'r cyfnod Baróc oedd Johann Sebastian Bach (21 Mawrth 1685 – 28 Gorffennaf 1750). Roedd yn organydd profiadol iawn, ac mae ei gyfansoddiadau wedi ysbrydoli bron pob cyfansoddwr a'i ddilynodd.Ysgrifennwyd llawer o'i weithiau enwocaf ar gyfer offerynnau allweddell: yr organ, a'r harpsicord yn bennaf. Mae'r preliwd a'r ffiwg yn amlwg iawn ymysg y gweithiau hyn, er enghraifft yn nwy lyfr y ''Wohltemperiertes Klavier''. Ysgrifennodd llawer o gerddoriaeth siambr a cherddorfaol hefyd, yn aml ar ffurf sonata neu goncerto, y Concerti Brandenburg enwog er enghraifft. Ffurfia gweithiau corawl a lleisiol rhan fawr o'i allbwn, ysgrifennwyd llawer ohonynt ar gyfer wasanaethau crefyddol cristnogol. Collwyd rhywfaint o'r gweithiau hyn yn niwloedd amser, ond mae'r rhai a oroesodd ymysg uchafbwyntiau cerddoriaeth Ewropeaidd. Mae'n werth nodi'r 195 cantata, y ddau ddioddefaint (yn ôl Saint Mathew a Saint Ioan), a'r Offeren yn B lleiaf. Darparwyd gan Wikipedia
-
1gan Bach, Johann Sebastian, 1685-1750Location: Marian Library, University of Dayton
Cyhoeddwyd 1999
Sain -
2gan Bach, Johann Sebastian, 1685-1750Location: Marian Library, University of Dayton
Cyhoeddwyd 1979
Sgôr Cerddorol Llyfr -
3Cyhoeddwyd 2001Awduron Eraill: “...Bach, Johann Sebastian, 1685-1750...”
Location: Marian Library, University of Dayton
CD Sain -
4Cyhoeddwyd 1999Awduron Eraill: “...Bach, Johann Sebastian, 1685-1750...”
Location: Marian Library, University of Dayton
CD Sain