Sebastian Brant

Bardd Almaenig yn yr ieithoedd Almaeneg a Lladin a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Sebastian Brant (145710 Mai 1521) sydd yn nodedig am ei gerdd ''Das Narrenschiff'' (1494).

Ganed yn Strasbwrg, un o ddinasoedd rhydd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Astudiodd y celfyddydau breiniol ym Mhrifysgol Basel, a derbyniodd ei radd baglor ym 1477 cyn ennill doethuriaeth yn y gyfraith ym 1489. Addysgodd yno o 1484 i 1500 ac ym 1496 derbyniodd gadair athro yn y gyfraith sifil a'r gyfraith ganonaidd. Gweithiodd hefyd yn olygydd i sawl argraffwr yn ninas Basel, gan gynnwys Johann Amerbach.

Ym 1494 cyhoeddwyd ei gampwaith, y gerdd alegorïaidd hir ''Das Narrenschiff'', gyda darluniadau gan Albrecht Dürer. Adrodda'r gerdd hanesion ar long sydd yn cludo mwy na chant o bobl i wlad Narragonia, paradwys y ffyliaid. Dychan ydyw ar gymdeithas yr oes, yn enwedig yr Eglwys Babyddol. Cafodd ei gyfieithu i Ladin, Isel Almaeneg, Iseldireg, Ffrangeg, a Saesneg ac roedd yn boblogaidd ar draws Ewrop. Hwn oedd y cyhoeddiad mwyaf boblogaidd yn yr Almaeneg nes ''Die Leiden des jungen Werthers'' (1774) gan Goethe. Ym 1498 cyhoeddodd Brant gasgliad o gerddi Lladin, ac ysgrifennodd hefyd weithiau ar bynciau'r gyfraith, crefydd, a gwleidyddiaeth, ac addasiadau o wirebau moesol Publius Valerius Cato a Freidank.

Wedi i Basel ymuno â Chydffederasiwn y Swistir, symudodd Brant yn ôl i Strasbwrg ym 1501, ac yno gweithiodd yn gynghorwr cyfreithiol i lywodraeth y ddinas. Ym 1503 fe'i penodwyd yn ysgrifennydd dinesig, ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn gynghorwr ymerodrol a breiniarll gan Maximilian I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, a gwasanaethodd ar sawl cenhadaeth ddiplomyddol. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Brant, Sebastian, 1458-1521', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Location: Marian Library, University of Dayton
    Pennod Llyfr
  2. 2
    gan Raulin, Jean, 1443-1514
    Cyhoeddwyd 1499
    Awduron Eraill: ...Brant, Sebastian, 1458-1521...
    Location: Hesburgh Libraries, University of Notre Dame
    Llyfr
  3. 3