Robert Bridges
Bardd Seisnig yn yr iaith Saesneg oedd Robert Seymour Bridges (23 Hydref 1844 – 21 Ebrill 1930).Fe'i ganwyd yn Walmer, Caint. Addysgwyd yng Ngholeg Eton a Choleg Corpus Christi, Rhydychen. Aeth ymlaen i astudio meddygaeth yn Ysbyty Sant Bartholomeus, Llundain, gan fwriadu ymarfer nes iddo gyrraedd deugain oed ac yna ymddeol er mwyn llunio barddoniaeth. Roedd yn feddyg nes iddo gael ei orfodi i ymddeol ym 1882 gan glefyd yr ysgyfaint. Wedyn fe wnaeth ymroi ei hun i fywyd llenyddol.
Yn 1884 priododd Mary Monica Waterhouse, merch i'r pensaer Alfred Waterhouse, a threuliodd weddill ei oes yng nghefn gwlad Berkshire, yn gyntaf yn Yattendon, wedyn yn Boars Hill (yn agos i Rydychen), lle bu farw.
Fe'i penodwyd yn Fardd Llawryfog ym 1913, yn dilyn marwolaeth Alfred Austin. Fe'i dilynwyd gan John Masefield ar ôl ei farwolaeth ei hun. Er gwaethaf ei fod yn Fardd Llawryfog, ni fu Bridges erioed yn fardd adnabyddus iawn nes iddo gyflawni peth poblogrwydd ychydig cyn ei farwolaeth gyda ''The Testament of Beauty'' (1929).
Tra'n fyfyriwr yn Rhydychen, daeth yn gyfaill i'r bardd Gerard Manley Hopkins (1844–1889). Gellir priodoli enwogrwydd Hopkins i raddau helaeth i ymdrechion Bridges i drefnu cyhoeddi argraffiad cyflawn ei farddoniaeth (1918).
Roedd yn dad i'r bardd Elizabeth Daryush (1887–1977). Darparwyd gan Wikipedia
-
1gan Hopkins, Gerard Manley, 1844-1889Awduron Eraill: “...Bridges, Robert, 1844-1930...”
Cyhoeddwyd 1933
Location: Dinand Library, College of the Holy Cross
Llyfr -
2gan Hopkins, Gerard Manley, 1844-1889Awduron Eraill: “...Bridges, Robert, 1844-1930...”
Cyhoeddwyd 1918
Location: John J. Burns Library, Boston College
Llyfr -
3gan Hopkins, Gerard Manley, 1844-1889Awduron Eraill: “...Bridges, Robert, 1844-1930...”
Cyhoeddwyd 1918
Location: William H. Hannon Library, Loyola Marymount University
Llyfr -
4gan Hopkins, Gerard Manley, 1844-1889Awduron Eraill: “...Bridges, Robert, 1844-1930...”
Cyhoeddwyd 1918
Location: Cudahy Archives, Loyola University Chicago
Llyfr -
5gan Hopkins, Gerard Manley, 1844-1889Awduron Eraill: “...Bridges, Robert, 1844-1930...”
Cyhoeddwyd 1930
Location: Dinand Library, College of the Holy Cross
Llyfr -
6gan Hopkins, Gerard Manley, 1844-1889Awduron Eraill: “...Bridges, Robert, 1844-1930...”
Cyhoeddwyd 1930
Location: John J. Burns Library, Boston College
Llyfr -
7gan Hopkins, Gerard Manley, 1844-1889Awduron Eraill: “...Bridges, Robert, 1844-1930...”
Cyhoeddwyd 1935
Location: John J. Burns Library, Boston College
Llyfr