John Clare
Bardd o Sais oedd John Clare (13 Gorffennaf 1793 – 20 Mai 1864). Yn fab i lafurwr amaethyddol tlawd, daeth yn enwog am ddathlu cefn gwlad ei filltir sgwar o gwmpas ei bentref genedigol o gwmpas Helpstone, Swydd Northampton ar y pryd (Swydd Caergrawnt heddiw) ac am ei ofidiau oherwydd y newidiadau mawr fu’n digwydd yno yn ystod ei blentyndod yn sgil y Deddfau Cau. Cafodd Clare ei eni i fyd o ryfeloedd Napoleon a ddilynodd y Chwyldro Ffrengig, a'r caledi mawr a fu'n rhan o fywyd ei ddosbarth.Cafodd farddoniaeth Clare ei ailasesu yn ddirfawr yn niwedd yr 20ed. ganrif: fe’i gwelir erbyn hyn fel fardd o bwys mawr o gyfnod y 19g. Cafodd ei alw gan ei fywgraffiadydd Jonathan Bate "''the greatest labouring-class poet that England has ever produced. No one has ever written more powerfully of nature, of a rural childhood, and of the alienated and unstable self''." Darparwyd gan Wikipedia
-
1gan Clare, John, 1577-1628Location: Gleeson Library, University of San Francisco
Cyhoeddwyd 1630
Llyfr -
2