Alvin Langdon Coburn

Plac ar ei hen dŷ yn Harlech Bu Alvin Langdon Coburn (11 Mehefin 1882 - 23 Tachwedd 1966) yn arloeswr ffotograffiaeth gynnar a rhoddodd y gorau i'w yrfa fel un o ffotograffwyr enwocaf ei gyfnod er mwyn symud i fyw yn Harlech ac wedyn Llandrillo-yn-Rhos i ganolbwyntio ar fod yn Saer Rhydd.

Arbrofodd a thorrodd tir newydd gyda sawl techneg ac arddull. Cysylltir yn amlaf gyda ''Symbolism, Pictorialism'' a chreu delweddau ''Vortographs'' a oedd wedi'u dylanwadu gan y grŵp celfyddydol Seisnig y ''Vorticists''.

Ganwyd yn ninas Boston, Massachusetts, Unol Daleithiau i deulu cyfoethog. Symudodd i Lundain cyn rhoi'r gorau i'w yrfa ffotograffig a symud eto i fyw yng Nghymru. Derbyniodd wahoddiad i ymuno â Gorsedd y Beirdd ym 1927. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Coburn, Alvin Langdon, 1882-1966', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Awduron Eraill: ...Coburn, Alvin Langdon, 1882-1966...
    Location: University of St. Thomas Libraries, University of St. Thomas
    Llyfr
  2. 2
    Awduron Eraill: ...Coburn, Alvin Langdon, 1882-1966...
    Location: Cudahy Archives, Loyola University Chicago
    Llyfr