Lawrence Ferlinghetti
Bardd Americanaidd yn yr iaith Saesneg oedd Lawrence Monsanto Ferlinghetti (24 Mawrth 1919 – 22 Chwefror 2021) a oedd yn un o sefydlwyr cenhedlaeth y Bitniciaid yn San Francisco yn y 1950au.Ganed yn Yonkers yn nhalaith Efrog Newydd, a chafodd ei fagu yn Ffrainc a Long Island. Gwasanaethodd yn swyddog yn Llynges yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Derbyniodd ei radd baglor o Brifysgol Gogledd Carolina, ei radd meistr o Brifysgol Columbia, a'i ddoethuriaeth o'r Sorbonne ym 1951.
Ymsefydlodd Ferlinghetti yn San Francisco, Califfornia, ym 1951, ac ym 1953 agorodd ei siop lyfrau, City Lights, a fyddai'n ganolfan i gylch ''avant-garde'' y ddinas. Dan enw'r wasg City Lights Books, cyhoeddodd nifer o awduron cenhedlaeth y Bitniciaid, gan gynnwys Allen Ginsberg, Jack Kerouac, Gregory Corso, Denise Levertov, William Burroughs, a William Carlos Williams.
Cyhoeddodd ei nofel hunangofiannol, ''Little Boy'' (2019), adeg ei ganmlwyddiant. Bu farw yn San Francisco yn 101 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3