Marsilio Ficino

Athronydd a diwinydd, dyneiddiwr, a chyfieithydd Eidalaidd oedd Marsilio Ficino (19 Hydref 14331 Hydref 1499) sydd yn nodedig fel yr ysgolhaig cyntaf i gyfieithu holl weithiau Platon i Ladin, ac un o brif ladmeryddion addysg glasurol—yn enwedig newydd-Blatoniaeth—yn ystod cyfnod y Dadeni Dysg.

Ganed ef yn Figline, Gweriniaeth Fflorens, yn fab i feddyg. Astudiodd y clasuron, gan gynnwys athroniaeth a meddygaeth Aristoteles, ac ymddisgleiriodd yn ei efrydiau. Fe'i penodwyd gan Cosimo de' Medici i diwtora ei ŵyr, Lorenzo de' Medici, a chafodd ei noddi hefyd gan Cosimo i gyfieithu gweithiau Platon o'r Roeg i'r Lladin ac i sefydlu academi yn Fflorens ym 1462 ar batrwm Academi Platon. Yn ogystal, cyflawnodd Ficino sawl esboniad ar waith Platon. Cyfieithodd Ficino hefyd sawl gwaith anadnabyddus o lenyddiaeth Hen Roeg i Ladin, gan hybu athroniaeth a llenyddiaeth glasurol ar draws yr Eidal. Ficino oedd un o feddylwyr blaenaf yr ysgol newydd-Blatonaidd, ac arddelai athrawiaeth Gristnogol sydd yn cymodi syniadau Platon am yr enaid. Amlinellir ei gredo yn ei waith enwocaf, ''Theologia Platonica de immortalitate animae'' ("Diwinyddiaeth Platon o'r Ysbryd Anfarwol", 1482). Yn ei waith ''De vita libri tres'' ("Tri Llyfr Bywyd", 1489), dadleuai o blaid defnydd swynoglau a sêr-ddewiniaeth, ac o'r herwydd fe'i cyhuddwyd o ddewiniaeth gan yr Eglwys.

Cafodd ei ordeinio'n offeiriad ym 1473, ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn swyddog eglwysig yn Eglwys Gadeiriol Fflorens. Wedi i deulu'r Medici gael ei fwrw allan o Fflorens ym 1494, symudodd Ficino i gefn gwlad. Bu farw yn Careggi, ar gyrion Fflorens, yn 65 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Ficino, Marsilio, 1433-1499', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Ficino, Marsilio, 1433-1499
    Cyhoeddwyd 1510
    Awduron Eraill: ...Ficino, Marsilio, 1433-1499...
    Location: Hesburgh Libraries, University of Notre Dame
    Llyfr
  2. 2
  3. 3
    gan Plato
    Cyhoeddwyd 1781
    Awduron Eraill: ...Ficino, Marsilio, 1433-1499...
    Location: Hesburgh Libraries, University of Notre Dame
    Llyfr