John Foxe
| dateformat = dmy}} Pregethwr Piwritanaidd ac hanesydd y saint o Sais oedd John Foxe (1516 – 18 Ebrill 1587) sy'n nodedig am ei ferthyroleg ''Actes and Monuments'' (1563), a elwir gan amlaf yn ''Foxe's Book of Martyrs''.Ganwyd yn Boston, Swydd Lincoln. Astudiodd yng Ngholeg Magdalen a Choleg y Trwyn Pres, Rhydychen, a bu'n gymrawd ym Magdalen am saith mlynedd. Bu'n ennyn drwgdybiaeth oherwydd ei daliadau Protestannaidd pybyr, ac ymddiswyddodd o'r coleg a symudodd i Lundain yn 1547. Yno cafodd swydd yn diwtor i wyrion Dug Norfolk. Fe'i ordeiniwyd yn ddiacon yn Eglwys Loegr, ac ysgrifennodd sawl pamffled i hyrwyddo syniadaeth y Diwygiad Protestannaidd. Yn y cyfnod hwn, cychwynnodd ar ei waith o gasglu hanesion y merthyron Protestannaidd a chyn-Brotestannaidd.
Ffoes Foxe i'r cyfandir yn 1553 yn sgil yr adferiad Catholig dan y Frenhines Mari I. Yn Strasbwrg, cyhoeddodd rhan o'i ferthyroleg yn Lladin, dan y teitl ''Commentarii rerum in ecclesia gestarum'' (1554). Aeth i Frankfurt am Main, lle bu'n cefnogi mudiad Calfinaidd John Knox, cyn symud i Basel ac ysgrifennu apêl at bendefigaeth Lloegr i wrthsefyll erledigaeth Mari, ''Ad inclytos ac praepotentes Angliae proceres'' (1557). Parhaodd i weithio ar ei ferthyroleg gyda chymorth llawysgrifau a ddanfonesid iddo o Loegr, a chyhoeddodd ddiweddariad yn 1559.
Yn sgil marwolaeth Mari yn 1558 a ailsefydlogi Eglwys Loegr dan y Frenhines Elisabeth I, dychwelodd Foxe i Lundain i orffen ei waith. Defnyddiodd gofrestri swyddogol ac atgofion gan dystion i ehangu ei hanes o'r erledigaeth yn ystod teyrnasiad Mari, ac aeth ati i drosi'r holl waith i'r Saesneg. Cyhoeddwyd ''Actes and Monuments of these Latter and Perillous Dayes'' ym Mawrth 1563, ac yn fuan enillodd yr enw poblogaidd ''The Book of Martyrs''. Cyhoeddodd Foxe ail argraffiad o'i ferthyroleg yn 1570, a mân-ddiwygiadau yn 1576 a 1583.
Yn 1560 fe'i ordeiniwyd yn offeiriad Anglicanaidd, ond fe wrthododd weinidogaethu neu gyflawni'r un swydd eglwysig, gan dderbyn dau gyflog heb ddyletswyddau. Er gwaethaf, pregethodd yn aml yn y pulpud tu allan i hen Eglwys Gadeiriol Sant Paul, a chyhoeddwyd un o'i bregethau, ''A Sermon, Of Christ Crucified'', yn 1570. Bu farw yn ardal Cripplegate, Llundain, a fe'i cleddir ym mynwent St Giles-without-Cripplegate. Cafodd fab o'r enw Samuel Foxe. Darparwyd gan Wikipedia
-
1gan Foxe, John, 1516-1587Location: Raynor Memorial Libraries, Marquette University
Cyhoeddwyd 1830
Llyfr -
2gan Foxe, John, 1516-1587Location: Cudahy Archives, Loyola University Chicago
Cyhoeddwyd 1833
Llyfr -
3gan Foxe, John, 1516-1587Location: Cudahy Archives, Loyola University Chicago
Cyhoeddwyd 1830
Llyfr -
4gan Foxe, John, 1516-1587Location: Hesburgh Libraries, University of Notre Dame
Cyhoeddwyd 1928
Llyfr -
5gan Parsons, Robert, 1546-1610Awduron Eraill: “...Foxe, John, 1516-1587...”
Cyhoeddwyd 1604
Location: John J. Burns Library, Boston College
Llyfr