Galileo Galilei

Seryddwr a ffisegydd o Eidalwr oedd Galileo Galilei (15 Chwefror 15648 Ionawr 1642), y seryddwr cyntaf i ddefnyddio telesgop i astudio'r sêr. Dywedodd y gwyddonydd Stephen Hawking, "''Galileo, perhaps more than any other single person, was responsible for the birth of modern science''."

bawd|220px|chwith Darganfu pedwar lloeren mwyaf y blaned Iau - Io, Ewropa, Ganymede a Challisto. Ef oedd y dyn cyntaf i ddarganfod cyrff allfydol a chaiff y pedwar hyn eu hadnabod heddiw fel Lloerennau Galileaidd.

Galileo hefyd oedd y dyn cyntaf i weld y blaned Neifion, ond wnaeth o fethu gwireddu pwysigrwydd y gwrthrych, yn meddwl ei bod yn seren. O ganlyniad, ni chafodd y blaned ei chydnabod tan 1846.

Roedd Galileo'n gefnogwr o theori heliosentrig Copernicus. O ganlyniad, cafodd ei ddistewi gan yr Eglwys Gatholig. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Galilei, Galileo, 1564-1642', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2