Howard Hughes
Roedd Howard Robard Hughes, Jr. (24 Rhagfyr 1905 – 5 Ebrill 1976) yn ŵr busnes ac yn ''entrepreneur'' Americanaidd o dras Cymreig, a oedd a diddordeb mawr mewn awyrenau, buddsoddi, peirianneg a chreu ffilmiau. Daeth i amlygrwydd bydeang yn y 1920au yn y 1920au drwy greu ffilmiau yn Hollywood - rhai drudfawr ac yn aml - dadleuol ee ''The Racket'' (1928), ''Hell's Angels'' (1930), ''Scarface'' (1932), a ''The Outlaw'' (1943). Yn ystod ei oes, roedd yn un o bobl gyfoethoca'r byd, gan wneud ei arian ei hun yn hytrach na thrwy etieddu arian.Ymhlith ei gariadon roedd: Billie Dove, Bette Davis, Ava Gardner, Olivia de Havilland, Katharine Hepburn, Ginger Rogers a Gene Tierney; gofynnodd i Joan Fontaine ei briodi sawl tro, heb fawr o lwc.
Yn dilyn hyn, ffurfiodd ''The Hughes Aircraft Company'' a huriodd lawer o beiriannwyr a chynllunwyr. Treuliodd weddill y 1930au yn sefydlu sawl record hedfan, cynhyrchodd yr ''Hughes H-1 Racer'' a'r H-4 "Hercules" (a adnabyddir ar lafar fel y "Spruce Goose") a phrynodd ac ehangodd y ''Trans World Airlines (TWA)'', a werthwyd yn ddiweddarach i gwmni ''American Airlines''. Prynodd hefyd ''Air West'' a'i ailenwi'n ''Hughes Airwest''; gwerthodd y cwmni hwn yn ei dro i ''Republic Airlines'' (1979–1986).
Rhestrwyd Hughes yn rhestr y ''Flying Magazine'' o 50 'Arwr y Byd Hedfan', gan ddod yn 25fed. Fe'i cofir yn benaf am ei arian anhygoel, ei ymddygiad ecsentrig, gwahanol ac am dreulio'i flynyddoedd olaf fel meudwy. Etifeddwyd ei waddol ariannol gan elusen a sefydlodd i ymchwilio i ddatblygiadau meddygol: ''Howard Hughes Medical Institute''. Darparwyd gan Wikipedia
-
1gan Hughes, HowardLocation: U.S. Catholic Special Collection, University of Dayton
Cyhoeddwyd 1980
Sgôr Cerddorol Llyfr -
2Cyhoeddwyd 1979Awduron Eraill: “...Hughes, Howard...”
Location: Raynor Memorial Libraries, Marquette University
Sgôr Cerddorol Llyfr