Thomas Jefferson

Thomas Jefferson (13 Ebrill 17434 Gorffennaf 1826) oedd trydydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, o 1801 hyd 1809. Bu hefyd yn Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 1797 a 1801 ac yn llywodraethwr talaith Virginia (1779-1781). Ef oedd prif awdur Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau a sylfaenydd Prifysgol Virginia.

Ganed Jefferson yn Shadwell, Virginia ar yr 2 Ebrill 1743, yn ôl y Calendr Iwlaidd oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr Ymerodraeth Brydeinig yr adeg honno, neu 13 Ebrill yn ôl Calendr Gregori a fabwysiadwyd yn 1752. Ef oedd y trydydd o ddeg plentyn Jane Randolph a Peter Jefferson. Yn 1752, dechreuodd Jefferson fynd i ysgol a gedwid gan William Douglas, ac yn naw oed dechreuodd astudio Lladin, Groeg a Ffrangeg. Bu farw ei dad yn 1757 ac etifeddodd tua 5,000 acer o dir a dwsinau o gaethweision. Adeiladodd blas ar y tir yma, a alwodd yn Monticello.

Aeth i ysgol y Parchedig James Maury yn Fredericksburg rhwng 1758 a 1760, ac aeth i'r coleg yn Williamsburg yn 16 oed, lle bu'n astudio dan William Small. Yn ddiweddarach astudiodd y gyfraith, a thrwyddedwyd ef yn gyfreithiwr yn Virginia yn 1767.

Yn 1772, priododd wraig weddw, Martha Wayles Skelton (1748-1782). Cawsant chwe phlentyn. Dywedir iddo hefyd gael nifer o blant gydag un o'i gaethweision, Sally Hemings, a phrofwyd hyn gan dystiolaeth DNA ym 1998, ond mae ychydig o ysgolheigion yn dadlau'r posibilrwydd taw brawd neu un o neiod Jefferson oedd tad y plant. Bu farw yn Monticello 4 Gorffennaf 1826.

Yn ôl traddodiad y teulu, roedd Jefferson o dras Gymreig, a'r teulu yn hanu o Eryri. Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Faenol ger Bangor yn 2006, dadorchuddiwyd cofeb i goffáu ei gysylltiad â'r ardal. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Jefferson, Thomas, 1743-1826.', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
    Cyhoeddwyd 1844
    Awduron Eraill: ...Jefferson, Thomas, 1743-1826...
    Location: Hesburgh Libraries, University of Notre Dame
    Cit