Athanasius Kircher

Ysgolhaig Almaenig ac offeiriad o Iesuwr oedd Athanasius Kircher (2 Mai 160127 Tachwedd 1680) sydd yn nodedig fel polymath.

Ganed ef yn Geisa (a leolir bellach yn Thüringen, yr Almaen), yn Abadaeth Fulda, un o esgob-dywysogaethau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Dysgodd yr ieithoedd Roeg ac Hebraeg yn ysgol yr Iesuwyr yn Fulda, ac astudiodd y gwyddorau a'r dyniaethau yn Paderborn, Cwlen, a Koblenz cyn iddo gael ei ordeinio ym Mainz ym 1628. Ar un pryd fe'i penodwyd yn athro ym Mhrifysgol Würzburg. Ffoes yr Almaen i osgoi'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, a chafodd sawl swydd academaidd yn Avignon. Ymsefydlodd yn Rhufain ym 1634, ac yno y bu am y rhan fwyaf o'i oes. Bu farw yn Rhufain yn 79 oed.

Deallusyn dylanwadol oedd Kircher yn ystod ei oes, a daeth yn enwog fel dyn hollddysgedig: fe'i gelwir yn aml yn "ddyn olaf y Dadeni". Darllennodd yn awchus am ystod eang o bynciau, gan gynnwys archaeoleg, ieithoedd hynafol, daearyddiaeth, seryddiaeth, mathemateg, ffiseg, meddygaeth, opteg, acwsteg, a meddygaeth. Ysgrifennodd ryw 40 o lyfrau a 2000 o lawysgrifau a llythyrau sy'n goroesi. Nodir ei weithiau ysgrifenedig gan wyddoniaduraeth llawn darluniadau a diagramau. Yn ogystal â'i ddarlleniadau a thraethodu ysgolheigaidd traddodiadol, ceisiodd arsylwi ar y byd gyda synhwyrau ei hun: mewn esiampl enwog, cafodd ei ostwng ar ben rhaff i mewn i geudwll Vesuvius er mwyn sbïo ar y tu mewn i losgfynydd yn fuan wedi echdoriad. Casglodd nifer fawr o hynodbethau o fyd natur, sydd yn parhau heddiw fel Amgueddfa Kircher yn Rhufain. Fe'i ystyrir weithiau yn sefydlwr Eifftoleg am iddo geisio (heb lwyddiant) darllen yr hieroglyffau. Efe hefyd oedd y cyntaf i saernïo telyn eolaidd, offeryn cerdd a fyddai'n boblogaidd hyd at ddiwedd y 19g. Fodd bynnag, seiliwyd nifer o'i syniadau ar gamdybiaethau a gwybodaeth ail-law, ac mae diffyg y dull gwyddonol modern yn amlwg yn ei waith. Ni gwerthfawrogir Kircher am ei ddarganfyddiadau na damcaniaethau gwreiddiol, ond yn hytrach am ei frwdfrydedd dros ddysg a'i ymdrechion i arloesi ysgolheictod rhyngddisgyblaethol. Ar sail ei enwogrwydd, priodolir nifer o ddyfeisiau iddo ar gam, gan gynnwys yr hudlusern a'r microsgop. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 50 canlyniadau o 91 ar gyfer chwilio 'Kircher, Athanasius, 1602-1680', amser ymholiad: 0.07e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50