John Mahoney

Cyn-chwaraewr a rheolwr pêl-droed Cymreig yw John Francis Mahoney (ganwyd 20 Medi 1946). Chwaraeodd yn safle canol cae i sawl tîm, gan gynnwys: Crewe Alexandra, Middlesbrough, Stoke City a Dinas Abertawe. Enillodd 51 cap dros Gymru.

Yn enedigol o Gaerdydd, magwyd Mahoney ym Manceinion gan fod ei dad yn chwarae rygbi'r gynghrair i dîm Oldham Roughyeds. Er nad oedd o deulu oedd yn siarad Cymraeg, dysgodd i siarad Cymraeg yn ddiweddarach, a gwnaeth ymddangosiad cameo ar yr opera sebon ''Pobol y Cwm''.

Roedd Mahoney yn aelod o'r dîm Cymru pan drechasant Lloegr am y tro cyntaf oddi-cartref ers 1936 ar 31 Mai 1977.

Ar ôl iddo ymddeol o chwarae, bu Mahoney yn rheoli clybiau pêl-droed Bangor, Sir Casnewydd a Thref Caerfyrddin. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 9 canlyniadau o 9 ar gyfer chwilio 'Mahoney, John.', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
    Cyhoeddwyd 2002
    Awduron Eraill: ...Mahoney, John L....
    Location: John J. Burns Library, Boston College
    Table of contents
    Llyfr