Anthony Munday

Bardd, dramodydd, pamffledwr, a chyfieithydd o Sais yn oesoedd Elisabeth ac Iago oedd Anthony Munday (sillefir hefyd Mundy; tua 15601633). Ymhlith ei weithiau mae ''John a Kent'' a ''John a Cumber'' (perfformiwyd 1594), sy'n ymwneud â gornest rhwng dau ddewin; a ''The Downfall of Robert, Earle of Huntington'' a'i dilyniant ''The Death of Robert, Earle of Huntington'' (perfformiwyd y ddwy ddrama ym 1598), am chwedl Robin Hwd. Cyfansoddodd sawl baled, er nad yw'r un ohonynt yn goroesi. Dan y llysenw "Shepheard Tonie", cyfrannai sawl cerdd i ''Englands Helicon'' (1600). Cyfieithodd hefyd ramantau poblogaidd, gan gynnwys cylch Palmerin (1581–95), ''Palladine of England'' (1588), ac ''Amadis of Gaul'' (tua 1590), ac ysgrifennodd basiantau i Ddinas Llundain o 1605 ymlaen.

Ganed ef yn Llundain, Teyrnas Lloegr, yn fab i frethynnwr, a chychwynnodd ar ei yrfa yn brentis i argraffwr. Aeth i'r Cyfandir ym 1578 i ysbïo ar ffoaduriaid Catholig o Loegr yn Ffrainc a'r Eidal, a dan ffugenw fe gafodd ei dderbyn i'r Coleg Seisnig yn Rhufain am sawl mis. Wedi iddo ddychwelyd i Loegr, gweithiodd yn actor a llenor toreithiog. Ym 1581–82 bu Munday yn flaenllaw wrth erlid y cenhadon o Iesuwyr a ddilynodd Edmund Campion i Loegr. Ym 1582 ysgrifennodd gofiant o'i gyfnod yn Rhufain, ''English Romayne Lyfe''. Erbyn 1586 cafodd ei benodi yn un o Genhadon y Frenhines Elisabeth I.

Ysgrifennodd Munday o leiaf 17 o ddramâu, ond dim ond ychydig ohonynt sydd yn goroesi. Mae'n debyg taw efe yw awdur ''Fedele a Fortunio'' (1584), addasiad o 'r gomedi Eidaleg ''Il Fedele'' gan Luigi Pasqualigo, a berfformiwyd yn llys y Frenhines Elisabeth ym 1585. Credir hefyd taw Munday yw prif awdur ''Sir Thomas More'' (tua 1590–93), drama hanes a adolygwyd gan Thomas Heywood, Thomas Dekker, a William Shakespeare.

Wedi 1602, ymddengys i Munday roi'r gorau i fyd y theatr, ac eithrio o leiaf pum pasiant a ysgrifennwyd ganddo ar gyfer Arglwydd Faer Llundain yn y cyfnod 1605–23. Yr oedd yn gyfaill i'r croniclydd John Stow, a fu farw ym 1605, a chyhoeddodd Munday argraffiadau newydd o'i ''A Survey of London'' ym 1618 a 1633. Cafodd Munday ei ystyried yn grachlenor gan rai, a châi ei watwar fel "Antonio Balladino" yn y gomedi ''The Case is Altered'' gan Ben Jonson. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Munday, Anthony, 1553-1633', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Cyhoeddwyd 1844
    Awduron Eraill: ...Munday, Anthony, 1553-1633...
    Location: William H. Hannon Library, Loyola Marymount University
    Llyfr
  2. 2
    Cyhoeddwyd 1911
    Awduron Eraill: ...Munday, Anthony, 1553-1633...
    Location: William H. Hannon Library, Loyola Marymount University
    Llyfr