Matthew Parker

Clerigwr Anglicanaidd o Sais oedd Matthew Parker (6 Awst 150417 Mai 1575) a fu'n Archesgob Caergaint o 1559 i 1575 ac yn un o arweinwyr sefydlogi hunaniaeth unigryw Eglwys Loegr yn ystod teyrnasiad y Frenhines Elisabeth.

Ganed ef yn Norwich, Norfolk, a chafodd ei addysg yn Neuadd y Santes Fair a Choleg Corpus Christi, Caergrawnt. Fe'i ordeiniwyd yn offeiriad yn yr Eglwys Gatholig ym 1527, er yr oedd eisoes yn cydymdeimlo â syniadaeth Luther. Gwasanaethodd yn ddeon mewn coleg offeiriaid yn Suffolk o 1535 i 1547. Wedi ei ethol yn feistr Coleg Corpus Christi ym 1544, aeth ati i ddiwygio'r llyfrgell (byddai'n cymynroddi ei lawysgrifau cain i'r honno). Fe'i penodwyd i sawl swydd arall yn y cyfnod hwn, gan gynnwys caplan i'r Brenin Harri VIII ym 1538 ac is-ganghellor Prifysgol Caergrawnt ym 1545 a 1549. Yn sgil esgyniad Mari I i'r orsedd, gorfodwyd iddo ymddiswyddo o'r brifysgol ym 1553 a ffoes i Frankfurt-am-Main.

Dychwelodd i Loegr wedi i Elisabeth olynu Mari, a derbyniodd, yn anfodlon, Archesgobaeth Caergaint. Fe'i cysegrwyd ym Mhalas Lambeth ar 19 Rhagfyr 1559. Byddai'n un o'r garfan Anglicanaidd, a geisiodd canfod ffordd ganolig rhwng Pabyddiaeth a Phiwritaniaeth. Dan ei arweiniad, cyhoeddwyd y 39 Erthygl, gan osod sail o ran athrawiaeth i'r eglwys. Ei brif gyfraniad at astudiaethau diwinyddol y cyfnod oedd Beibl yr Esgob (1563–8); Parker ei hun a gyfieithodd Lyfr Genesis, yr Efengyl yn ôl Mathew, a rhai o epistolau Paul. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Parker, Matthew, 1504-1575.', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2