Pierre Pithou

Cyfreithiwr, cyfreithegwr, ac hanesydd Ffrengig oedd Pierre Pithou (; 1 Tachwedd 15391 Tachwedd 1596) sydd yn nodedig fel canonwr ac un o'r ysgolheigion cyntaf i gasglu a dadansoddi ffynonellau hanes Ffrainc.

Ganed ef yn Troyes, ar lannau Afon Seine, yn Nheyrnas Ffrainc, a chafodd ei fagu'n Galfinydd. Astudiodd Pierre a'i frawd François ym mhrifysgolion Bourges a Valence dan Jacques Cujas. Ym Mhrifysgol Paris daeth Pierre i'r amlwg am ei draethodau ar bwnc y gyfraith Rufeinig, a derbyniodd wisg y cyfreithiwr ym 1560. Ni châi ei alw i'r bar yn Troyes oherwydd ei Brotestaniaeth, felly symudodd am y tro i Sedan yn yr Ardennes, ac ar ddechrau'r Ail Ryfel Crefydd ffoes i ddinas Basel yn y Swistir. Dychwelodd i Ffrainc yn sgil yr llonyddu'r gwrthdaro ym 1570. Wedi cyflafan yr Hiwgenotiaid ym 1572, trodd Pithou yn Gatholig ym 1573. Penodwyd Pithou yn ''procureur général'' (erlynydd cyffredinol) ym 1579 i lys dro dro a sefydlwyd gan y Brenin Harri III yn nhalaith Guyenne.

Er iddo ymwadu â Phrotestaniaeth yn gyhoeddus, cafodd Pithou ei atal gan y Gynghrair Gatholig rhag trin y gyfraith, felly trodd ei sylw at ymchwilio i hanes yr Eglwys Gristnogol a'r gyfraith ganonaidd. Pithou oedd y cyntaf i gyhoeddi cyfraith y Fisigothiaid, ''Leges Wisigothorum'' (1579), a chyflawnodd hefyd argraffiad o flwyddnodion y Ffranciaid, ''Annales Francorum'' (1588). Cyfrannodd hefyd at y traethodyn dychanol ''Satire Ménippée'' (1594), parodi polemig sydd yn gwatwar y Gynghrair Gatholig a'r achos Sbaenaidd yn y Rhyfeloedd Crefydd. Yn sgil goruchafiaeth y Brenin Harri IV, penodwyd Pithou yn ''procureur général'' i'r senedd ym Mharis ym 1594. Ar orchymyn y brenin, ysgrifennodd ''Les Libertés de l'église gallicane'' (1594), gwaith sydd yn cyfundrefnu rheolau a gwirebau Galicaniaeth. Bu farw Pierre Pithou ar ei ben-blwydd yn 57 oed, yn Nogent-sur-Seine, nid nepell oddi wrth ei dref enedigol. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 6 canlyniadau o 6 ar gyfer chwilio 'Pithou, Pierre, 1539-1596.', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
    Cyhoeddwyd 1779
    Awduron Eraill: ...Pithou, Pierre, 1539-1596...
    Location: Paul Bechtold Library, Catholic Theological Union
    Llyfr
  3. 3
    Cyhoeddwyd 1687
    Awduron Eraill: ...Pithou, Pierre, 1539-1596...
    Location: Cudahy Archives, Loyola University Chicago
    Llyfr
  4. 4
    Cyhoeddwyd 1651
    Awduron Eraill: ...Pithou, Pierre, 1539-1596...
    Location: Gleeson Library, University of San Francisco
    Llyfr
  5. 5
    Cyhoeddwyd 1705
    Awduron Eraill: ...Pithou, Pierre, 1539-1596...
    Location: Hesburgh Libraries, University of Notre Dame
    Llyfr
  6. 6
    Cyhoeddwyd 1705
    Awduron Eraill: ...Pithou, Pierre, 1539-1596...
    Location: Cudahy Archives, Loyola University Chicago
    Llyfr