Giovanni Battista Riccioli

Seryddwr Eidalaidd oedd Giovanni Battista Riccioli (17 Ebrill 159825 Mehefin 1671).

Ganed ef yn Ferrara, yn Nhaleithiau'r Babaeth, ac ymunodd â Chymdeithas yr Iesu ym 1614. Wedi iddo astudio'n fanwl bob cangen o wybodaeth fel eu dysgid yn yr oes honno, dewiswyd ef yn athro athroniaeth, rhethreg, barddoniaeth, a diwinyddiaeth yng ngholegau'r Iesuwyr yn Parma a Bologna. Serch, gan fod ei dueddfryd naturiol yn ei arwain i astudio daearyddiaeth a seryddiaeth, rhoddodd i fyny'r swyddi hyn, ac ymroddodd i efrydu'r gwyddorau hynny.

Ym 1653 cyhoeddwyd ganddo draethawd ar bwnc seryddiaeth, a elwid ''Almagestum Novum''. Yr oedd y byd dysgedig y pryd hwn yn rhanedig yn eu barnau am gyfundrefn y greadigaeth, rhwng dilynwyr Aristoteles a disgyblion Nicolaus Copernicus. Yn yr ''Almagestum'' mae Riccioli, ar ôl egluro syniadau Copernicus ynghylch symudiad y ddaear, yn dwyn ymlaen restr faith o wrthwynebiadau iddynt. Y mae'n cydnabod, fodd bynnag, po mwyaf y bydd i ni chwilio'r ddamcaniaeth am amrywiol symudiadau'r ddaear, mwyaf yn y byd y rhaid i ni edmygu athrylith a synnwyr Copernicus, yr hwn a lwyddodd i egluro mewn dull mor syml wahanol bethau yn dal perthynas â'r cyrff nefol, a gofidia fod ffrwyth dychymyg disglair, fel y dywed, yn cael eu gosod allan ganddo fel gwirioneddau sylweddol. Y mae'r edmygedd a amlygir gan Riccioli yn wastad o Copernicus, ac hyd yn oed y dull yn yr hwn y mae ei wrthwynebiadau i'w ddamcaniaeth yn cael eu gosod allan, wedi arwain llawer i gredu fod yr Iesuwr dysgedig hwn yn credu yn ei galon yr un peth am gyfundrefn y greadigaeth â Copernicus. Cynnwysa'r ''Almagestum'' rannau a ddengys fod yr awdur yn ddarostyngedig i ragfarnau'r oes.

Cyhoeddodd Riccioli waith ar ddaearyddiaeth a môr-ddarluniaeth, yn yr hwn y rhoddir adroddiad o'r gweithrediadau a ddygwyd ymlaen ganddo ef a Francesco Maria Grimaldi o berthynas i gyhydedd y ddaear. Ym 1665, cyhoeddodd ei ''Astronomia Reformata''. Ysgrifennai Riccioli ei draethodau yn Lladin, yn groes i esiampl Galileo Galilei o ysgrifennu ar bynciau gwyddonol drwy gyfrwng iaith y werin. Bu farw Riccioli—yr hwn, fe allai, a fu yn fwy defnyddiol i ddynolryw fel un yn cofnodi darganfyddiadau rhai eraill nag fel darganfyddwr ei hun—yn Bologna ym 1671, yn 73 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Riccioli, Giovanni Battista, 1598-1671.', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4