Francisco Suárez

Diwinydd Catholig ac athronydd gwleidyddol o Sbaen oedd Francisco Suárez (5 Ionawr 154825 Medi 1617). Efe oedd un o brif feddylwyr y Gwrth-Ddiwygiad, ac ymdriniasai ei waith â phynciau'r ddeddf naturiol, hawliau dynol, sofraniaeth, a brenhiniaeth. Yn ei ysgrifau ceir cyfraniad pwysig at athroniaeth y gyfraith a datblygiad cynnar cyfraith ryngwladol. Tynna llawer o'i waith ar ddysgeidiaeth Sant Tomos o Acwin, ac os Tomos oedd y cyntaf a'r pwysicaf o'r athronwyr ysgolaidd gellir ystyried Suárez yn yr olaf o'r traddodiad hwnnw ac olynydd mwyaf y Brawd Du o Acwin.

Roedd Suárez yn awdur hynod o doreithiog, a seiliai'r mwyafrif o'i gyhoeddiadau ar ei ddarlithoedd. Fe'i ystyrir yn ysgolhaig hyddysg a manwl yn ei ddadleuon. Ymhlith ei brif weithiau mae sylwebaeth mewn pum cyfrol ar y ''Summa Theologica'' gan Domos o Acwin (1590–1603), ''Disputationes Metaphysicae'' (2 chyfrol, 1597), ''De Legibus'' (1612), a ''De Divina Gratia'' (cyhoeddwyd yn 1620 wedi ei farw). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 50 canlyniadau o 72 ar gyfer chwilio 'Suárez, Francisco, 1548-1617.', amser ymholiad: 0.06e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50